Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ein ffordd o fyw wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth.

 

Wrth ymateb i COVID-19, defnyddiwyd pob rhan o’n system iechyd mewn ffordd nas gwelwyd erioed o’r blaen yn hanes y GIG. Mae’r caredigrwydd gan ein cymuned wedi bod yn rhyfeddol wrth i’n staff, partneriaid a phoblogaeth Caerdydd a’r Fro ddod ynghyd ar adeg argyfyngus.  Yn ystod y pandemig, mae ein staff wedi dangos gwydnwch nid yn unig wrth ofalu am gleifion, ond wrth gefnogi ei gilydd a gweithio i gynnal ein gwasanaethau hanfodol. Gwelwyd sawl enghraifft o arloesedd gyda staff a gwasanaethau yn addasu i ffyrdd newydd ac anghyfarwydd o weithio. Wrth i ni fyfyrio ar y dyddiau tywyll a’r aberth rydym ni wedi gorfod gwneud, mae gobaith bellach o’n blaenau wrth i ni edrych at y dyfodol.

 

Mae’n anodd ffitio digwyddiadau llynedd i un wythnos yn unig, ond rhwng 22 a 26 Mawrth 2021, rydym yn myfyrio ar wydnwch ac ymdrechion anhygoel ein staff, partneriaid a chymuned Caerdydd a’r Fro. Byddwn ni hefyd yn coffáu ac yn myfyrio ar y golled bywyd trasig sydd wedi ein heffeithio ni i gyd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys staff gofal iechyd ar draws GIG Cymru ac o fewn ein Bwrdd Iechyd ein hun.

 

Felly ymunwch â ni i ddweud diolch o galon i gymunedau Caerdydd a’r Fro, yn ogystal â phob aelod o staff ar draws pob tîm, adran a chyfarwyddiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Diolch yn fawr.



Blog


Diolch