Gwydnwch

Yn ôl geiriadur Collins, ‘Mae pobl a phethau sy’n wydn yn gallu adfer yn rhwydd ac yn gyflym ar ôl digwyddiadau annymunol neu niweidiol.’

O ddechrau a thrwy gydol y pandemig, roedd y Bwrdd Iechyd yn wydn o ran ei natur, gan addasu gwasanaethau ar draws ei safleoedd ac o fewn y gymuned er mwyn parhau i gynnig gofal i gleifion mewn ffordd ddiogel. Rhoddwyd y dull gwydn hwn o weithredu ar waith yn gyflym o ganlyniad i’r pandemig; digwyddiad y gallwch chi ei ddisgrifio’n rhwydd fel un annymunol a niweidiol.

Er enghraifft, nôl ym mis Mawrth 2020 pan gafodd COVID-19 ei ddisgrifio fel pandemig gan Sefydliad Iechyd y Byd, a’r Bwrdd Iechyd yn paratoi ar gyfer y ‘ton’ cyntaf o achosion, roeddem yn gwybod bod angen i ni fabwysiadu ffordd newydd o weithio o fewn ein hysbytai, a hynny’n gyflym. Arweiniodd hyn at gyflwyno ‘parthau’ yn safleoedd Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau, gan gategoreiddio’r ardaloedd hyn o barthau ‘Gwyrdd’ ar gyfer cleifion heb COVID-19, hyd at barthau ‘Coch’ a oedd yn cynnwys cleifion ag achosion a gadarnhawyd o COVID-19. Gan weithio â thimau o’r Bwrdd Iechyd, gwnaethom sicrhau bod gan y ‘parthau’ hyn fynedfeydd ac allanfeydd pwrpasol, gyda staff yn gweithio o fewn eu parthau penodedig yn unig i leihau’r risg o groes-heintio.

Ar 13 Mawrth 2020, pan gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething y byddai rhai o wasanaethau’r GIG yn cael eu hatal, gan gynnwys derbyniadau llawfeddygol, triniaethau ac apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys, ffocws y Bwrdd Iechyd oedd blaenoriaethau llawdriniaethau a thriniaethau brys. Cytunwyd y byddai’r holl lawdriniaethau brys yn digwydd mewn unedau gwarchodedig o fewn parthau gwyrdd ar ein safleoedd. Fodd bynnag, sylweddolwyd yn fuan bod angen capasiti ychwanegol arnom, a dyma’r rheswm dros gydweithio ag Ysbyty Spire. Cytunodd yr Ysbyty i gynnal XX, XX a XX o lawdriniaethau brys, gyda dros 1,500 o gleifion yn derbyn triniaeth arbed golwg yn rhan o’r bartneriaeth nodedig hon.

Yn rhan o’n hymdrech i gadw gwasanaethau o fewn y gymuned ac i ffwrdd o’r ysbytai, cafodd 92% o broblemau gofal llygaid brys eu trin yng nghymunedau Caerdydd a’r Fro, gan leihau’r angen i gleifion fynd i’r adran anafiadau i’r llygaid yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Roedd hyn yn bosibl diolch i gynllun gan ein Hymgynghorydd Optometreg, Sharon Beatty.

Prif ran o ymladd yn erbyn y feirws oedd addasu ein gwasanaethau i sicrhau y gellir cadw pellter cymdeithasol, a wnaeth i ni ailfeddwl am y ffyrdd y gallai cleifion gael mynediad at driniaeth brys. O ganlyniad, gwnaethom lansio’r system ‘Ffonio’n Gyntaf, CAF 24/7, cyntaf yng Nghymru ym mis Awst 2020. Os yw cleifion yn meddwl bod angen iddynt ymweld â’r Uned Achosion Brys, ond nad oes bygythiad i fywyd nag aelod, yna rhaid iddynt ffonio CAF 24/7 ar 0300 10 20 247. Rhoddir slot amser iddynt fynd i’r Uned i sicrhau nad ydynt yn cyrraedd ac yn ymgynnull yn yr ardal aros, gan eu cadw nhw a’n staff yn ddiogel.

Yn fuan wedyn, wrth i ni ddathlu Wythnos Rhoi Organau ym mis Medi, gwnaethom fyfyrio ar y mesurau diogelwch a roddwyd yn eu lle ar gyfer ein cleifion trawsblaniad er mwyn helpu i leihau’r perygl o heintio pan oeddent yn ymweld â ni yn yr ysbyty neu pan oeddent gartref. Fodd bynnag, roedd ail don o achosion COVID-19 ar y ffordd felly fe weithredodd y Bwrdd Iechyd yn gyflym i sicrhau y byddai cyfleuster dros dro yn cael ei adeiladu i allu ymdopi â’r ymchwydd, diolch i fuddsoddiad o £33m gan Lywodraeth Cymru. Ar ddydd Llun 8 Chwefror, 150 diwrnod ar ôl i’r gwaith adeiladu ddechrau ar 12 Medi, cafodd Adain Glan-y-Llyn ei throsglwyddo’n swyddogol i’r Bwrdd Iechyd gan y prif gontractwyr, Darwin Group Ltd. Mae’r Adain yn cael ei defnyddio fel cyfleuster ‘camu i lawr’ ar hyn o bryd ar gyfer cleifion sy’n derbyn triniaeth adsefydlu hanfodol ar ôl cyfnod o salwch acíwt, ac nid ar gyfer Covid-19 o reidrwydd.

Wrth i ni agosáu at yr Haf ac i nifer yr achosion ddechrau lleihau, dangosodd ffigurau Llywodraeth Cymru bod gostyngiad pryderus o 75% mewn atgyfeiriadau cleifion lle mae amheuaeth o ganser, gan fod gweithgarwch cleifion yn is o ¼ mewn meddygfeydd teulu. Gyda chymorth ein meddygon teulu, gwnaethom amlygu sut yr oedd practisiau meddygon teulu #YmaiChioHyd wrth iddynt addasu i ffyrdd newydd o weithio gan gynnwys ymgynghoriadau dros fideo, ffôn neu e-bost a ddefnyddiwyd i fonitro cleifion ag afiechydon cronig. Gwnaethom sicrhau cleifion ei bod hi’n ddiogel iddynt ddod â’u plant i gael eu brechu gan fod practisiau wedi mabwysiadu mesurau cadw pellter cymdeithasol ac yn defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE). Gyda chynnydd mewn honiadau o gam-drin domestig a cham-drin plant, a’r gwasanaeth Adnabod ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch (IRIS) yn cyrraedd 1,000 o atgyfeiriadau yng Nghaerdydd a’r Fro, gwnaethom atgoffa ein trigolion y gallai eich practis meddyg teulu lleol eich cyfeirio at gymorth a chyngor.

Gwnaeth ein Cynghorydd Deintyddol, Mick Allen, egluro sut y bu’n rhaid i bractisiau deintyddol atal gwasanaethau rheolaidd er mwyn cyfyngu ar gyswllt wyneb yn wyneb â chleifion a lleihau teithiau cleifion i bractisiau. Er eu bod wedi blaenoriaethu triniaethau brys i ddechrau, yn araf bach mae practisiau yn ailddechrau cynnig gwasanaethau a gafodd eu hatal (yn dibynnu ar faint y clinig a faint o gleifion sydd wedi cofrestru gyda nhw).

Gwnaeth Fferyllfeydd Cymunedol hefyd newid eu ffyrdd o weithio, gan ddarparu gwasanaethau estynedig a rhai hyd yn oed yn cynnig dulliau atal cenhedlu geneuol heb orfod gwneud apwyntiad.

Wrth i ni edrych yn ôl ar yr atebion a’r datrysiadau arloesol y mae ein staff a’n systemau wedi’u rhoi ar waith yn gyflym dros y 12 mis diwethaf, mewn amodau mor bryderus a thorcalonnus, mae’n deg dweud mai ni yw’r diffiniad o wydnwch.

Rydym wedi bod yn wydn dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym yn parhau i fod yn wydn wrth i ni aros i weld beth sy’n digwydd nesaf yn sgil COVID-19 a byddwn ni’n wydn am byth wrth i ni ddysgu gwersi o’r pandemig hwn a gwybod y gallwn ni oroesi unrhyw beth wrth weithio gyda’n gilydd a chefnogi ein gilydd.